SL(6)477 – Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024
Cefndir a Diben
Mae Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024 ("y Rheoliadau hyn") yn gweithredu newidiadau a wnaed i Ddeddf Adeiladu 1984 ("Deddf 1984") a gyflwynwyd gan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 ("Deddf 2022").
Mae'r Rheoliadau hyn yn cychwyn adran 49(1) a (2) o Ddeddf 2022 ac yn diwygio'r ddeddfwriaeth ganlynol mewn perthynas â Chymru:
- Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (O.S. 2010/2215);
- Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (O.S. 2005/1541);
- Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012 (O.S. 2012/3118).
Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 25 Ebrill 2024 ac maent yn rhan o gyfres o ddeddfwriaeth newydd sy'n dod â darpariaethau a wnaed gan Ddeddf 2022 i rym a gafodd y Cydsyniad Brenhinol yn 2022. Mae newidiadau i Ddeddf 1984 wedi cael eu gweithredu fesul cam er mwyn cyflwyno’r drefn rheoli adeiladu newydd.
Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru yn darparu mai diben cyffredinol y diwygiadau hyn yw sicrhau bod y fframwaith rheoleiddiol yn parhau i fod yn gymwys, lle bo hynny'n briodol, wrth i reolaeth adeiladu yn y sector preifat newid o Arolygwyr Cymeradwywyr, o dan yr hen drefn, i Gymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu o dan y drefn newydd.
Y weithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio’r gwahanol ddulliau drafftio a ddefnyddiwyd mewn perthynas â rheoliad 3(j) a (k). Mae’r ddau reoliad yn diwygio cyfeiriadau at “approved inspector” i “approver” fel eu bod yn parhau i fod yn gymwys i gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu. Mae rheoliad 3(j) yn cyfeirio’n benodol at “[b]aragraff 4(a) a amnewidir”, tra bod rheoliad 3(k) yn cyfeirio’n syml at “[b]aragraff 3 a amnewidir”. O ystyried y tebygrwydd rhwng rheoliad 20(6) a 20(6A), fel y cyfeirir ato yn rheoliad 3(j) a (k), rhaid gofyn, pam fod y drafftio yn wahanol drwy bennu’r is-baragraff mewn un ddarpariaeth ond nid y llall.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
16 Ebrill 2024